Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Unigolyn
1. Egwyddorion cyffredinol y Bil
1.1 A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?
Ydw
1.2 Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)
Dylid llanw'r bwlch hanesyddol - na bu hanes Cymru yn ganolog ond ymylol ac achysurol yn yr ysgolion. Fel arall mae'r ymwybyddiaeth genedlaethol yn fratiog a thra anghyflawn
1.3 A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Efallai bod deddfwriaeth yn rhoi mwy o strwythur i arwain
2. Gweithredu’r Bil
2.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Bod y peth i gyd yn swnio'n iawn ond mewn gwirionedd a dim gafael
2.2 A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Wn i ddim
3. Canlyniadau anfwriadol
3.1 A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Y syniad bod rhywbeth wedi ei wneud - a hynny fawr o ddim yn y diwedd
4. Goblygiadau ariannol
4.1 A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
5. Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth
5.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)
-
6. Ystyriaethau eraill
6.1 A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)
Ar boen ailadrodd - dylid ymorol fod cyd-destun hanesyddol cyflawn yn cael ei roi i Gymru fel bod pethau'n gwneud synnwyr i'r rhai a ddysgir a'u bod yn cael eu cynnwys yn y stori